Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (200) |
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 5 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
3 Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad mewn Chwaraeon
Dechreuodd yr eitem am 15.02
NDM5509 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Lefelau Cyfranogiad Mewn Chwaraeon, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mawrth 2014.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5512 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi methiannau polisi Llafur Cymru yn ystod 15 mlynedd mewn llywodraeth yng Nghymru;
2. Yn gresynu at y diffyg perfformiad yn:
a) Yr economi, gyda gwerth ychwanegol crynswth (GYC) bellach ar 72.3% o gyfartaledd y DU;
b) Addysg, lle mae safle Cymru yn safleoedd PISA wedi dirywio ym mhob cyfnod asesu;
c) Y GIG, gydag un o bob saith yng Nghymru ar restr aros
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
28 |
43 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o lwyddiant Llywodraeth yr Alban o ran gwella twf economaidd a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus mewn cyd-destun datganoledig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
6 |
15 |
22 |
43 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Pwynt o Drefn
Cododd Alun Davies bwynt o drefn ynghlych sylwadau gan Aelod arall ynglŷn â Blaenau Gwent, a oedd allan o drefn yn ei farn ef. Dywedodd y Dirprwy Lywydd nad oedd y sylwadau a wnaed allan o drefn.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.49
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5511 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod rhannau o gymoedd de Cymru yn parhau i wynebu lefelau uchel o amddifadedd.
2. Yn cydnabod bod trechu tlodi yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol cael buddsoddiad parhaus ac ymyriad Llywodraeth Cymru.
3. Yn nodi'r potensial sylweddol i gymoedd de Cymru hyrwyddo eu treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynorthwyo'n uniongyrchol fentrau ar lawr gwlad i drechu tlodi a gwella adfywiad ardaloedd ag amddifadedd yn y Cymoedd;
b) sicrhau bod digon o ofal plant fforddiadwy i ddiwallu anghenion rhieni;
c) sicrhau bod gan bob unigolyn sydd allan o waith yn y Cymoedd fynediad i hyfforddiant prentisiaeth neu sgiliau;
d) datblygu, drwy ymgynghori â'r cyhoedd, strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â'r problemau a meithrin cymunedau cynaliadwy yn y Cymoedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
15 |
43 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 17.44 a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 17.46 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.
6 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.49
NDM5513 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Sgrinio ar gyfer Dyslecsia yng Nghymru
Pwysigrwydd sgrinio amserol a digonol ar gyfer dyslecsia yng Nghymru, yn enwedig o ran technegau a ddatblygwyd yn ddiweddar ar gyfer sgrinio plant ysgol gynradd sy'n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.10
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Mehefin 2014